:: Tudalen Groeso

Croeso

CWMNI ADWY
Yn 2000, enillodd Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon gynt) gytundeb fasnachol i reoli cwmni newydd o'r enw Cwmni Adwy, sydd yn adnewyddu eiddo yn y dyffrynnoedd Llechi, sef Ogwen, Peris, Nantlle, Ffestiniog a Chorris. Ers i'r cwmni gael ei sefydlu, mae Adwy wedi adnewyddu 11 o adeiladau a chwblhau 5 phrosiect amgylcheddol o fewn y pum dyffryn. Mae rhain yn cynnwys Capel Salem yn Nhalysarn, yr hen Co-op yn Llanberis a Liptons yn Neiniolen. Mae’r rhain bellach ar gael i'w rhentu fel swyddfeydd, siopau a gweithdai – gweler adran Rhestr Eiddo am fanylion. Yn ddiweddar, enillodd Galeri Caernarfon y tendr ar gyfer cytuneb Adwy II, prosiect a fydd yn datblygu'r Dyffrynnoedd Llechi ymhellach.